|
Y GYMUNED
Llywodraethwyr
Mae ugain aelod, â chanddynt amrediad eang o brofiad yn aelodau o’r corff llywodraeth. Gellir disgrifio eu gwaith fel un sy’n ‘ffrind hanfodol’ i’r ysgol, yn cefnogi’r gweithgareddau ac yn sicrhau bod gwaith beunyddiol yr ysgol yn mynd yn ei flaen yn hwylus ac yn cydfynd â ’r canllawiau statudol.
Gellir gweld rhestr gyflawn o aelodau’r corff llywodraethol o fewn Adroddiad Blynyddol y Corff Llywodraethol i rieni (ar gael o’r adran lawrlwytho).
CYMDEITHAS RIENI
Rydym yn ffodus o gael Cymdeithas Rieni ac Athrawon weithgar sy’n neilltuo amser gwerthfawr i gynorthwyo ein disgyblion i dderbyn y profiadau gorau posibl yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Eleni cododd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon £7,000 tuag ag lain naid hir i’r adran Addysg Gorfforol. Mewn blynyddoedd blaenorol meant wedi codi arian i brynu bysiau mini i’r ysgol. Defnyddir rhain yn helaeth i gefnogi’r dysgu ac i gludo disgyblion yn ddiogel i weithgareddau chwaraeon allgyrsiol. Fodd bynnag, nid codi arian yn unig yw swyddogaeth y gymdeithas rhieni ac athrawon - cymerant ran amlwg mewn nifer o weithgareddau’r ysgol, o Nosweithiau Gwobrwyo i’r Ffair Nadolig Flynyddol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ’n Cymdeithas Rhieni ac Athrawon cysylltwch a’r ysgol am fwy o wybodaeth.
Partneriaid
Gweithiwn yn agos gyda rhychwant eang o bartneriaid i sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn y dechrau gorau posibl. Meant yn cynnwys Gyrfa Cymru, Cyngor Bwrdeistref Nedd a Port Talbot, Coleg Abertawe, Canolfan TGCh Baglan, ac wrth gwrs, yr ysgolion cynradd sy’n ein bwydo.
|