Cwmtawe logo
Cwmtawe Comprehensive School

 

ADNODDAU TECHNOLEG GWYBODAETH

Credwn yn gryf mewn defnyddio technoleg i ehangu’r dysgu a’r addysgu yng Nghwmtawe. I’r perwyl hwn, buddsoddwn mewn datblygu ein hadnoddau technoleg gwybodaeth a’n staff yn flynyddol.

Cofrestru gwersi ar SIMS
Mae gan bob dosbarth gyfrifiadur i hwyluso ein sustem gofrestru, gwers wrth wers. Mae hyn yn ein galluogi i adnabod disgyblion unigol sydd heb fod yn bresennol a chymryd camau i unioni hynny. Mae’r sustem yn ein helpu i gynnal un o’r cyfraddau absenoldeb heb ganiatad isaf yng Nghymru.

Ystafell Dechnoleg Gwybodaeth FoethusYstafelloedd Technoleg Gwybodaeth
Mae gennym unarddeg ystafell yn llawn cyfrifiaduron sydd wedi eu lleoli’n gyfleus ar draws safle’r ysgol – gall pob ystafell ddal rhwng 20 a 30 disgybl ar unrhyw adeg.

Ym mhob ystafell ceir taflunydd data ac adnoddau argraffu lliw a du a gwyn. Gwneir defnydd llawn o’r rhain gan bob pwnc.

Bwrdd Gwyn rhyngweithiol a Thaflunwyr Data
Ceir taflunydd data ym mhob ystafell gofrestru yn yr ysgol. Defnyddir rhain yn ystod cyfnodau cofrestru a gwersi bugeiliol i ddatblygu sgiliau allweddol. Ar ben hyn, mae gan bob ystafell yr yr adrannau Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Gyrfaoedd, Ieithoedd a Dyniaethau daflunwyr data. Mae gennym hefyd fwrdd arddangos 10 troedfedd (3 metr) yn neuadd yr ysgol ar gyfer cynnal gwasanaethau ysgol ysgytwol.

 © 2009 Cwmtawe Community School

Best viewed with IE 7.0+ at 800x600 resolution

Contact Webmaster