Cwmtawe logo
Cwmtawe Comprehensive School

 

STAFF

Gwers DechnolegMae gennym staff ymroddedig sydd bob amser yn blaenoriaethu anghenion y plant. Mae canran uchel ohonynt yn neilltuo amser ar ô l ysgol ac yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol i roi hyfforddiant pellach i blant i sicrhau eu body n cyrraedd eu potensial.

Gellir cael rhestr llawn o staff yn ein prosbectws.

CPD

Mae yna raglen gyflwyno gyflawn i bob aelod o staff sy’n dechrau gyrfa yn yr ysgol, a hynny ar ben eu hyfforddiant fel athrawon. Rydym hefyd yn buddsoddi’n helaeth mewn datblygiad proffesiynol pellach ein holl staff, yn athrawon ac yn staff cynorthwyol. Yn wir, mae llawer o’n staff cynorthwyol yn manteisio ar arbenigedd staff yr ysgol i wella eu cymwysterau trwy sefyll cyrsiau TGAU. Mae eraill wedi dewis hyfforddi fel athrawon yma trwy ddilyn y Rhaglen Addysgu i Raddedigion.

Enillodd yr ysgol yr anrhydedd aruchel ‘Buddsoddwyr mewn Pobl’ i gydnabod bod gennym staff sydd â ’r cymwysterau a’r profiad gorau yn y Deyrnas Unedig. Adolygwyd yr anrhydedd yn Rhagfyr 2007, ac o ganlyniad fe’i hadnewyddwyd wrth i ni gwrdd â holl safonau fframwaith y Buddsoddwyr mewn Pobl.
 © 2009 Cwmtawe Community School

Best viewed with IE 7.0+ at 800x600 resolution

Contact Webmaster