Cwmtawe logo
Cwmtawe Comprehensive School

 

GWYBODAETH AM YR YSGOL

Disgyblion yn defnyddio technoleg gwybodaethSefydlwyd Ysgol Cwmtawe fel ysgol gyfun yn 1969 pan gyfunwyd pob ysgol uwchradd yn yr ardal. Symudodd i’r adeilad newydd presennol yn 1996 ac erbyn hyn mae gennym adnoddau heb eu hail. Ar hyn o bryd mae 1290 disgybl yma.

Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf aeth yr ysgol o nerth i nerth gan ragori ar lefelau cenedlaethol a rhai’r awdurdodau lleol. Mewn gwirionedd mae data Yellis yn ein rhoi ymysg y 5% o ysgolion uchaf Prydain Fawr am gynnig gwerth ychwanegol. O’r herwydd anrhydeddwyd yr ysgol gyda gwobr aruchel ACCAC am yr ysgol a wellodd fwyaf yn ystod 2005.

Disgyblion yn derbyn canlyniadau TGAULlwyddiant y Disgyblion
Ymfalchiwn yn llwyddiant ein pobl ifanc. Yn ystod arholiadau 2011 enillodd 93% o’n disgyblion 5 neu fwy o raddau A*-C yn eu haroliadau TGAU. Mae hyn ymhell y tu hwnt i gyfartaledd yr Awdurdod Lleol a’r cyfartaledd Cymreig a chenedolaethol. Yn bwysicach fyth, enillodd 98% o’n disgyblion 5 neu fwy TGAU A*-G.

Mae ein staff a’n disgyblion yn gweithio’n agos yn ystod blwyddyn 11 i sicrhau bod disgyblion unigol yn cael pob cyfle a chwarae teg i gyrraedd eu postensial. Mae bron pob adran yn cynnal ‘Gwersi ar ô l ysgol sy’n sicr yn cyfrannu at ganlyniadau rhagorol a gwerth ychwanegol. Gellir gweld mwy am hyn yn ein prosbectws.

Aarlwyo yr YsgolBwyta’n Iach
Mae ein huned arlwyo yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd twym ac oer yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Mae’r ysgol wedi ymrwymo i addysgu disgyblion am fanteision bwyta deiet cytbwys ac iachus. Gellir cael cipolwg ar ein bwydlen amser cinio yn yr adran lawrlwytho.

Cydraddoldeb Anabledd
Mae Cwmtawe yn ysgol gynhwysol ac wrth gael adeilad newydd gallwn ddarparu ar gyfer y mwyafrif o anableddau corfforol. Rydym hefyd yn elwa o gael uned dyslecsia arbennig i sicrhau bod plant dyslecsig yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i gyrraedd eu potensial. Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’n polisi anabledd neu drefniadau hygyrchedd cysylltwch â ’r prifathro am apwyntiad.

Gellir cael copi o’n prosbecws llawn trwy gysylltu â ’r ysgol ar yr adran lawrlwytho.
 © 2009 Cwmtawe Community School

Best viewed with IE 7.0+ at 800x600 resolution

Contact Webmaster