|
CWRICWLWM YR YSGOL
Mae cwricwlwm Cwmtawe yn gyffrous a deinamig. Darparwn rychwant eang o gyrsiau sy’n addas ar gyfer ein holl ddisgyblion. Maent yn naturiol yn cydfynd â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod Allweddol 3 (11-14)
Mae’r disgyblion yn astudio amrywiaeth o bynciau yn CA3 sy’n cynnwys Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Addysg Gorfforol, Technoleg Gwybodaeth, Gwersi Bugeiliol, Addysg Grefyddol, Celf, Drama, Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Hanes, Cerddoriaeth a Thechnoleg.
Yn ystod mis Chwefror bob blwyddyn, cefnogir disgyblion blwyddyn 9 wrth iddynt ddewis pynciau arbenigol i’w dilyn yng Nghyfnod Allweddol 4 (TGAU neu gymhwyster cyffelyb). Mae’r ysgol yn unigryw wrth alluogi disgyblion i ddechrau astudio ar gyfer TGAU ar ddiwedd blwyddyn 9. Rhydd hyn hwb ychwanegol wrth iddynt ddechrau ar waith cyfnod allweddol 4.
Cyfnod Allweddol 4 (14-16)
Mae’r prynciau craidd o Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Addysg Gorfforol/Chwaraeon, Gwers Fugeiliol ynghyd ag Addysg Gorfforol yn orfodol. Ar ben hyn cynigir rhychwant eang o gyrsiau TGAU - o Astudiaethau Busnes i Ddeunyddiau Gwrthiannol. Cynigiwn hefyd nifer o gyrsiau galwedigaethol megis Hamdden a Thwristiaeth a Chelf Uwch (mae’r ddau yn TGAU dwbl).
Sgiliau Allweddol
Datblygir sgiliau allweddol ein disgyblion ar draws pob pwnc. Fe’u hymgorfforir yn eu hastudiaethau yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4. Y sgiliau a ddatblygir yw cyfathrebu, rhifyddeg, technoleg gwybodaeth, gweithio gydag eraill, gwella eu techneg dysgu a pherfformiad, ynghyd â datrys problemau.
Gellir cael gwybodaeth ychwanegol yn y llyfryn opsiynau blynyddol sydd ar gael o’r adran lawrlwytho. |