|
CEFNOGI DISGYBLION
Bugeiliol
Mae cefnogi ac arwain disgyblion yn flaenoriaeth yng Nghwmtawe. Mae gennym dim bugeiliol profiadol ac ymroddedig, yn cael ei arwain gan Brifathrawes cynorthwyol gweithgar sy’n cefnogi disgyblion trwy gydol eu bywydau ysgol.
Disgyblaeth Ysgol a Llwyddiannau
Mae ein polisi ‘Disgyblaeth ar gyfer Dysgu’ (DFL) yn ganolog i ymddygiad a chefnogaeth disgyblion yng Nghwmtawe. Gwobrwyir ymddygiad da a llwyddiant ond hefyd cydnabyddir bod angen cosbau priodol am dorri’r cod disgyblaeth.
Mae ein sustem DFL hefyd dyn dilyn ac yn arolygu cynnydd disgyblion o flwyddyn 7 i flwyddyn 11. Cynhelir adolygiad o gynnydd yn dymhorol a gwybrwyir disgyblion am eu cyflawniad. Ond mae’r adolygiad hefyd yn ein galluogi i adnabod disgyblion sy’n tangyflawnu a rhoddir mentor DFL iddynt i sicrhau nad ydynt yn tangyflawnu. Mae’r sustem DFL yn allweddol i’n llwyddiant i sicrhau bod disgyblion yn mwynhau eu cyfnod yng Nghwmtawe, yn ennyn ynddynt ymdeimlad o hunan barch ac yn sicrhau canlyniadau rhagorol ym mhob cyfnod.
Cyngor yr Ysgol
Mae gan ein cyngor ysgol ddau aelod etholedig o bob blwyddyn ysgol. Mae ganddynt rol bwysig yn yr ysgol, cysylltu a disgyblion, staff a’r uwch-dim reoli i sicrhau bod llais y disgyblion yn cael ei glywed.
Ymysg eu llwyddiannau diweddar mae trefnu gweithgareddau ar gyfer ein hwythnos elusennol, a mabwysiadu byrbrydau iachus newydd yn ffreutur yr ysgol sydd o les i’r disgyblion a’r staff. |