Cwmtawe logo
Cwmtawe Comprehensive School

 

ALLGYRSIOL

Disgybl yn chwarae'r ffidilMae gan ddisgyblion Cwmtawe ddewis eang o weithgareddau allgyrsiol. Yn wir, mae yma rywbeth at ddant pawb - cerddoriaeth, chwaraeon, drama, astudiaethau busnes, ieithoedd modern, Cymraeg, hanes a daearyddiaeth. Mae’r rhain, ynghyd ag adrannau eraill, yn trefnu ymweliadau cyffrous i gefnogi gwaith y dosbarth.

Ar ben ymweliadau allgyrsiol, mae llawer o’n staff yn rhoi o’u hamser i gynorthwyo disgyblion gyda gwersi ychwanegol yn ystod oriau cinio ac ar ô l ysgol.

Sgwad Pel-rwyd blwyddyn 7Chwaraeon
Mae gan yr ysgol enw da am feithrin talent ym myd y campau. Aeth nifer o ddisgyblion ymlaen i chwarae rygbi i dimau uwch a chenedlaethol gyda rhai ohonynt yn enwau diarhebol erbyn hyn - Gareth Edwards, Elgan Rees, Bleddyn Bowen, Robert Jones, Arwel Thomas, James Griffith ac Aled Brew. Cynrychiolodd Joanne Melen Gymru yng ngemau’r gymanwlad yn 2002 gan ennill medal arian am jiwdo.

Mae Cwmtawe hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen PESS (rhaglen Addysg Gorfforol a Chwaraeon) gyda’r bwriad o ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at chwaraeon. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â ’r ysgolion cynradd sy’n ein bwydo.

Gwobr Dug CaeredinGwobr Dug Caeredin
Mae Gwobr Dug Caeredin yn bwysig yng Nghwmtawe gyda dros 100 disgybl a 10 staff yn cymryd rhan. Mae disgyblion yn dechrau eu Gwobr Efydd ym mlwyddyn 9 ac yn parhau trwy flwyddyn 10 i ennill y Wobr Arian.

Mae gennym hefyd nifer o gyn-ddisgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol o addysg bellach i gwblhau eu Gwobr Aur flynyddoedd yn ddiweddarach.

Cynhyrchiad yr Ysgol
Mae ansawdd cynyrchiadau Ysgol Cwmtawe yn ddiarhebol ar hyd y Cwm. Eleni, perfformiodd y disgyblion ‘High School Musical’ yn ein neuadd ysgol. Dros y blynyddoedd llwyfannwyd sawl cynhyrchiad yng Nghanolfan Gelf Pontardawe, sef ‘Red Hot and Cole’, Grease’ a ‘Bugsy’.

Tim Media4schoolsY Cyfryngau i Ysgolion (Media4Schools)
Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda media4schools ers 2007. Hyfforddwyd tim o 12 o ddisgyblion blwyddyn 9 ynghyd â thri aelod o staff yn Sony ym Mhencoed i gynhyrchu rhaglenni teledu o safon uchel.

Gobeithiwn gael fideo o’r safle hwn yn y dyfodol agos!

Clybiau cyfrifiaduron i Ferched
Mewn cydweithrediad â ’r ysgolion cynradd sy’n ein bwydo, lawnsiwyd Clwb Cyfrifiaduron i ferched wedi ei anelu yn bennaf ar gyfer merched 10 i 13 oed. Cynhelir y clwb yn yr ysgol o 3.45 p.m. i 4.30 p.m. bob prynhawn Mercher. Gellir cael mwy o wybodaeth trwy gysylltu â Miss M Johnston yn yr ysgol.

 © 2009 Cwmtawe Community School

Best viewed with IE 7.0+ at 800x600 resolution

Contact Webmaster